Diffibrilwyr ar gyfer yr Ardal
Mae ymgyrch wedi ei threfnu yn ddiweddar i greu ymwybyddiaeth am ddiffibrilwyr a’r defnydd ohonynt ac i godi arian i brynu rhai ar gyfer prif bentrefi Cymuned Llandyfaelog. Mae’r Cyngor Cymuned wedi cytuno i oruchwylio prynu diffibrilwyr, eu lleoli a chynnal a chadw i’r dyfodol; mae’r Cyngor hefyd wedi cytuno i weithredu fel bancwyr ar gyfer yr arian a gesglir.
Eisoes mae nifer o fudiadau a busnesau wedi cytuno i gefnogi’r ymgyrch trwy gyfrannu arian ac mae trwydded (Rhif trwydded : C17/2019) ar gyfer cynnal casgliad o dŷ i dŷ yn y Cymuned yn ystod y cyfnod Ionawr 21ain hyd Chwefror 23ain. Bydd y casgliad hwn yn rhoi cyfle i bawb i gefnogi’r ymgyrch.
Trefnwyd rhai digwyddiadau yn barod a gellir gwneud cyfraniadau ariannol mewn arian parod neu trwy sieciau (talacwy i : Cyngor Cymuned Llandyfaelog) i Glerc y Cyngor Cymuned, Arfon Davies (trwy gysylltu ar 01267 267647 neu trwy ebost - llandyfaelog@btinternet.com) neu i mi, Geraint Roberts, fel deiliad y drwydded gasglu o dŷ i dŷ. Diolch o flaen llaw am eich cefnogaeth.
Geraint Roberts, Pengwern, Cwmffrwd, Caerfyrddin. SA31 2NB geraintroberts@btinternet.com 01267 229047