Treftadaeth a Hanes
Cliciwch ar y ddelwedd uchod i weld ein Dogfen Treftadaeth a Hanes.

  1. Pistyll Cafwyd hyd i ffynnon iachaol ym Mhistyll, sef ffynnon o ddwr gloyw, oedd yn werthfawr iawn o ran gwella afiechydon y llygad.
  2. Mae Bancycapel yn cael ei enw o hen gapel ar glawdd o dir uchel sef Mynydd y Cyfor, ar ben deheuol y bryn ger y groesffordd ym mhentrefan Bancycapel. Ar y clawdd hwn mae tomenni o dir yn aros sy’n nodi safle Capel Cynheiddon. Roedd y capel yn sefyll yn ystod y 17eg ganrif, ond erbyn hyn mae fwy neu lai wedi diflannu. Soniwyd am ei sylfeini yn De situ Brecheniauc y 12fed ganrif, dogfen sy’n trafod safleoedd claddu hynafol Cymreig.
  3. Capel Bancycapel Cyn yr adeiladwyd y Capel ym 1834, cynhaliodd y Methodistiaid lleol eu cyfarfodydd ym Mhenymaes, Bwlchygwynt, Fforest ac Iscwm ymhlith eraill. Daeth y pulpud cyntaf yn yr eglwys o Gapel Heol y Dwr, Caerfyrddin. Roedd bwriad i ychwanegu cloc i’r capel, ond cyn i’r adeilad gael ei gwblhau cafodd ei symud i Eglwys Llangain. Roedd y tu mewn yn syml iawn gyda phedair sedd yn y blaen ac ar bob ochr a meinciau yn y canol; gwnaed rhai adnewyddiadau ym 1869.
  4. Cloigyn Yn y pentrefan hwn roedd capel all-blwyfol a ddefnyddiwyd ar gyfer gweinyddu priodasau yn unig. Dim ond y sylfeini sydd ar ôl. Ar bont Cloigyn mae arysgrif yn nodi y talwyd cost codi’r bont gan ddirwyon a osodwyd ar ‘Gardis’ oedd yn ‘gyrru eu ceffylau a’u certi ar gyflymder uchel’ yn ôl ac ymlaen o’r odynau calch ym Meinciau.
  5. Maenordy Sioraidd yw Glanrhydw, a adeiladwyd ym 1732 a’i osod o fewn parc prydferth; roedd yn gartref i’r teulu Saunders.
  6. Gelligaeros / Llwynyreos – Ffordd Rufeinig – Mae Ffordd Rufeinig o Bensarn yn dod allan i Ffordd Bolahaul rhwng Penbryn a Mount Hill. Mae’n mynd ar draws i Beaulieu i Dycanol a Chwmtawel, gan ail-ymuno â’r gymuned ger Cwmffrwd Uchaf. Y rhan rhwng Llwynyreos a Gelligeiros yw’r brif ffordd o hyd.
  7. Fila fawr yw Oaklands a adeiladwyd ym 1861, wedi’i gosod mewn coetir ar y tro yn y ffordd. Roedd yn gartref ar un adeg i T.W.Barker, cyfreithiwr o Gaerfyrddin a ysgrifennodd ‘The Handbook of the Natural History of Carmarthenshire’ ym 1905. Roedd Oaklands ar un adeg yn gartref i Mr Walter Davies a ddyfeisiodd olwyn sbâr Stepney gyda’i frawd.
  8. Adeiladwyd Eglwys Santes Anne ym 1866 gan T.W.A.Thompson, ac agorodd ar 14 Awst 1868. Adeilad syml ydyw gyda chlochlofft ac organ fawreddog. Mae’r bedd cynharaf yn coffáu Gwyddel, y Capten J.M. Pentland(1800-1871) o Digoed, ac mae arno’r arysgrif canlynol: Hwyliodd y swyddog hwn yn y llong Northumberland gyda Napoleon Buonaparte i St Helena ym 1815 a dychwelodd i Loegr ym 1818.
  9. Ystyr Cwmffrwd yw Dyffryn y nant sy’n llifo’n gyflym. Mae wedi’i lleoli lle mae ffordd Caerfyrddin i Gydweli yn croesi Nant Cwmffrwd lle mae hen bont un bwa yn croesi’r nant. Mae’r enw’n dyddio o 1609, pan yr enw arno oedd Cwm y froode. Mae tarddiad Y Ffrwd ger Llanddarog ac yn cwrdd â’r Pibwr gyda’i tharddiad ym Mlaenpibwr (ger Capel Dewi) ym Mhont Pibwr, ac yna’n ymuno â’r Tywi gyda’i gilydd ym Mhibwrwen.
  10. Teras o dai yw Llaingotten o fewn Cwmffrwd. Daw’r enw o Llain-coed-ynn, sef Llain (darn cul o dir) a coed-ynn (coetir coed ynn).
  11. Lloc wedi’i amddiffyn o Oes yr Haearn Abercyfor, gyda sylfeini adeilad oddi mewn iddo, fila Rufeinig o bosib, gyda phalmant teselog cain iawn. Credir efallai yr oedd y tri Abercyfor a Gelligeiros yn un ystâd yn ystod y cyfnod Rhufeinig.
  12. Ty mawr Fictoraidd oedd Ty Cwmffrwd a adeiladwyd o gwmpas 1860 i Dr Thirlwall, Esgob Ty Ddewi. Llosgodd i’r llawr ym 1921.
  13. Cynhaliwyd Gwasanaethau Capel Penygraig yn wreiddiol ym Mwthyn Felin Plas Gwyn yng Nghroesyceiliog. Yn gyntaf cawsant eu symud i gartref Nell Francis ym Mhentrepoeth; wedi hynny ym 1670 i le o’r enw Ffynnonloyw i’r dwyrain o’r safle presennol, tan 1703 gyda gwasanaethau yng Nglannant Chroesyceiliog, lle darparwyd mynwent. Ym 1748 symudodd eto a chafodd chwarter erw ei renti ar gyfer capel a mynwent gan dair chwaer oedd yn byw yng Ngelligaeros, Plasygraig a Chwmfelin yn ôl eu trefn. Yn fwthyn to gwellt bach yn wreiddiol, roedd yr adeilad yn barod ar gyfer gwasanaethau ar 13 Ebrill 1749, er bod plac enw’r capel yn nodi 1751 fel y dyddiad adeiladu. Gweinidog cyntaf Penygraig oedd y Parch. Milbourne Bloom. Codwyd yr adeilad presennol ym 1834 ar gost o £367. Dathlodd Capel Penygraig ei Ben-blwydd yn 250 oed ym 1999.
  14. Ysgol Gyfun Bro Myrddin Symudodd yr Ysgol Uwchradd i’r lleoliad hwn ger Croesyceiliog o’i safle blaenorol ar Deras Richmond ym 1997.

Dogfen Treftadaeth a Hanes
Cliciwch ar y ddelwedd uchod i weld ein Dogfen Treftadaeth a Hanes.

  1. Yr Hen Chwarel rhwng Moelfre a Chroesyceiliog Fach. Daw Moelfre o’r gair ‘moel’, sef mynydd neu fryn yn sefyllfa ar ei ben ei hun, a ‘bre’, sef pwynt yn codi ar dir uchel.
  2. TyrNest Yn ôl traddodiad, tra ar ei ffordd o Gaerfyrddin i ymosod ar gastell Cydweli oddeutu 1100, cododd Gruffydd ap Rhys ei wersyll ger safle presennol ffermdy Tyrnest ac enwyd y lle ar ôl ei chwaer, Nest.
  3. Croesyceiliog Credwyd bod yr enw yn deillio o’r ffaith fod llawer o ymladd ceiliogod yn digwydd yng Nghroesyceiliog Fawr, a’r fferm oedd y man cyntaf i ddwyn yr enw. Mae hefyd yn bosib bod yr enw gwreiddiol yn golygu man lle roedd croes sanctaidd ger y ffordd yn sefyll yn y gorffennol. Y tu ôl i bentref Croesyceiliog roedd rhyd a ddefnyddiwyd yn aml fel ffordd gyflym i gyrraedd plwyf Llangain.
  4. BrynGwanws Afon fach yw’r Gwanws, yn tarddu yn un o gaeau Fferm Capel ac yn rhedeg i lawr i bentref Pentrepoeth trwy Gaeau Bryngwanws, ac ar un pwynt ceir trobwll dwfn. Mae’r afon yn llifo i Groesyceiliog cyn ymuno â’r Tywi.
  5. Pentrepoeth Mae’r pentrefan yn eistedd mewn dyffryn rhwng Idole a Chroesyceiliog gyda hen ffordd droellog o’r enw Cwmale yn ffurfio cyffordd yn ei ganol. Ar hyd Cwmale roedd darn o dir rhydd a adwaenwyd fel Comin Waun Llefris. Bu Anghydffurfwyr yn cwrdd i ddechrau yng nghartref Nell Francis ym Mhentrepoeth a dywedir eu bod wedi cael y fraint o gwmni John Penry y Merthyr a grogwyd ym 1593. Credir ei fod wedi pregethu mewn man ger Bryn Beulah.
  6. Melin Plas Gwyn Dechreuodd y symudiad anghydffurfwyr o fewn y Gymuned gydag ychydig o bobl oedrannus yn cwrdd mewn bwthyn adfeiliedig ger y man lle mae Melin Plas Gwyn nawr yn sefyll. Ger Melin Plas Gwyn mae rhan o hen ffordd Rufeinig, sy’n rhedeg yn gyfochrog â’r llinell reilffordd. Mae’n debygol y teithiodd Gruffydd ap Rhys ar hyd y ffordd hon i ymosod ar Gastell Cydweli. 
  7. Idole Mae enw’r lle yn hynafol, ac yn cyfeirio at ‘Vaccae Ithole’, gyda vaccae yn golygu uned wartheg ar gyfer trethi yn y canoloesoedd. Roedd Idole o fewn cwmwd Cydweli. Mae chwedl yn egluro tarddiad enw’r lle; ‘roedd y caeau uchel lle mae Idole bellach yn sefyll unwaith oll yn dir comin. Pan gafodd ei rannu’n dyddynnod, ac yn destun cynifer o reolau a rheoliadau, cyfeiriodd y Cymry at y rhan fel Mynydd y Rheole, (rheolau), a drodd mewn amser yn Ithole’.
  8. Capel Seion, Idole Ym 1897 ffurfiwyd ysgol Sul yn Idole gyda 19 o aelodau yn cofrestru. Ym 1899 adeiladwyd capel Bedyddwyr yn Idole, a chost codi’r adeilad oedd £430. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar 25 Ebrill 1900 i ymgorffori’r aelodau yn gorff neu eglwys. 
  9. Ysgol y Fro, Uned Idole Trwy indeintur a wnaed ar 2 Mawrth 1854, rhwng John Howell o Lan a David Gravell o Gwmfelin darparwyd darn o dir at ddiben codi ysgoldy a thy i athro’r ysgol. Erbyn hyn does dim ôl o’r ysgol na’r ty. Adeiladwyd yr adeilad presennol ym 1906. Ym 1996 daeth yr ysgol yn rhan o’r ysgol ffederal gyntaf yn Sir Gaerfyrddin ynghyd â Llangyndeyrn a Llansaint. Ym 1860 gadawodd tirfesurwyr y Plwyf ddarn o dir gyferbyn â’r ysgol i’r plant chwarae arno ynghyd ag un erw i’w defnyddio ar gyfer tyddynnod i labrwyr tlawd. Yn 2009 cyflawnwyd y weledigaeth o gael ardal chwarae i blant trwy brosiect a gynhaliwyd gan Gyngor Cymuned Llandyfaelog, Cyngor Sir Caerfyrddin gydag arian gan Gynllun Grant Cwm Environmental ac Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol. Ochr yn ochr â’r ysgol mae chwarel gyhoeddus sy’n cynnwys ffynnon.
  10. Cwm yr Arian Mae ffrwythlondeb y pridd yn golygu bod hon wedi bod yn fferm ffyniannus erioed gyda rhai o drigolion y plwyf yn cofio hyd at ddeg teulu yn byw yng Nghwm yr Arian. Yn ôl traddodiad lleol, ar ryw adeg daethpwyd o hyd i swm mawr o arian yn y fferm, wedi’i adael yno gan smyglwyr o bosib.
  11. Castell Tywi Wedi’i ddatblygu’n wreiddiol yn blasty yn ystod y 18fed-19eg ganrif.
  12. Safle Bwthyn Tredegar Man geni Dr. David Davies, yr obstretrydd a helpodd eni’r Frenhines Fictoria. Wedi’i ddymchwel ym 1938. Gellir gweld plac coffa i Dr. Davies yn Eglwys St Maelog, Llandyfaelog.
  13. Capel Rama Cynhaliwyd ysgolion Sul am nifer o flynyddoedd ers 1819 mewn lleoedd fel Manygath, Rhydygar, Pantycwar (pob un wedi’u dymchwel bellach) a Llwyncelyn. Ym 1839 adeiladwyd capel bach 24tr x 18tr o faint gydag ysgolion Sul yn cael eu symud i’r safle ym 1841. Ym 1845 estynnwyd y capel ac ym 1871 gyda’r eglwys yn ffynnu penderfynwyd adeiladu capel newydd, sef y Capel Rama presennol.
  14. Upland Arms Mae mwyafrif enwau’r lleoedd yn y Gymuned yn Gymraeg, er yn y gymdogaeth hon mae nifer o enwau Saesneg, fel Upland Arms (a adwaenwyd gynt fel Raymond’s Lodge) a oedd yn dafarn. Yn agos hefyd mae Holy Thorn a Constantinople. Yr eglurhad tebygol yw yn y flwyddyn 1188, teithiodd Baldwin, Archesgob Caergaint, ynghyd â’r hanesydd enwog Gerallt Gymro, trwy’r ardal yn pregethu’r efengyl a gofyn i ddynion ymuno â’r Crwsadwyr yn y Wlad Sanctaidd. Codasant wersyll yno ac enwi Constantinople a Holy Thorn.
  15. Roedd Ty Lan yn gartref i Mary Tucker a briododd Williams Davies, perchennog The Emporium yn Sgwâr Neuadd y Dref, Caerfyrddin.

Dogfen Treftadaeth a Hanes
Cliciwch ar y ddelwedd uchod i weld ein Dogfen Treftadaeth a Hanes.

Mae LLANDYFAELOG yng nghanol hen bentrefan Ysgubor Fawr. Ar ôl i'r eglwys gael ei hadeiladu, sefydlwyd mwy o anheddau. O ddiwedd yr Oesoedd Canol a thrwy'r Diwygiad, daeth y pentref ei hun yn fwy cysylltiedig ag eglwys a phlwyf ei noddwr mynachaidd, Sant Maelog.

  1. LLANDYFAELOG - Yn wreiddiol, roedd yr enw Llandyfaelog yn gymwys i'r eglwys a'i 'phlwyf' helaeth yn unig. Roedd y plwyf yn cynnwys ffermydd a bythynnod gan fwyaf gydag ambell bentrefan gwasgaredig. Trefnodd Arglwyddiaeth Cydweli y plwyf yn ardaloedd treth y degwm, a newidiwyd hyn yn ddiweddarach yn saith pentrefan yn ystod y 15fed/16eg ganrif. Mae llawer o enwau'r ffermydd presennol yn mynd yn ôl i'r amser hwnnw. Cyn C19, roedd y pentref yn cynnwys clwstwr o adeiladau rhwng Yr Hen Ysgubor a Bwthyn Woodbine.
  2. EFAIL BEYNON - Roedd siop y gof ar y safle hwn yn dyddio o 1830 ac roedd yng ngofal teulu Beynon drwy gydol ei oes weithio. Cafodd ei ddymchwel yn ystod gwelliannau i'r ffordd yn y 1980au. Roedd cyffordd wreiddiol y ffordd ar ochr Cydweli yr efail ac roedd yn ffurfio croesfan gyda ffordd Glan y Fferi. 
  3. Pen y Fedw Ffermdy 18fed ganrif ar ei ben ei hun.
  4. Nantygoetre Mae Nantygoetre yn llygredigaeth o Goedtref sy'n golygu cartref yn y goedwig. Mae Nantygoetre Isaf yn enw nodweddiadol ar dy yn sefyll ar lan nant mewn glyn coediog. Mae Nantygoetre Uchaf yn sefyll ar dir uwch cyfagos.
  5. Glanmorlais Uchaf Y ty presennol a'r adeiladau i'r blaen oedd Ffatri Wlân Pant Faen. I'r cefn roedd olwyn ddwr, i yrru'r peiriannau a Glanmorlais Uchaf, ty hir Cymreig traddodiadol.
  6. Capel Ebenezer, Coed y Brain - Ym 1850 dechreuodd Bedyddwyr yn yr ardal hon, wedi'u harwain gan Daniel Stephens o Goed y Brain, Ysgol Sul, yn cynnal cyfarfodydd gweddi mewn llofft uwchben y coetsdy yn Fferm Coed y Brain. Yn y flwyddyn 1865 adeiladwyd capel Ebenezer. Coed y Brain a osododd y ffôn preifat cyntaf yn y Gymuned ym mis Mehefin 1933. 
  7. Yn wreiddiol galwyd Glanmorlais a Phontmorlais yn Glanfforddlas a Phontfforddlas.
  8. Gellideg - Yn gartref i deulu Jennings am sawl cenhedlaeth, Gellideg oedd y ty cyntaf yn y gymuned i'w gysylltu â chyflenwad trydan Llanelli ym mis Mai 1932. Uwchgapten E.C. Jennings oedd y cyntaf i gofrestru car modur preifat ym mis Ionawr 1916, ac ef oedd golygydd Motor Magazine. Ym 1936 gosododd Mrs. Margaret Jennings record ar gyfer lap yng Nghylched Rasio Brooklands, Surrey, sef 127mph.
  9. Llechdwnni (‘cysgod y Dwnns’) - Y ty hwn oedd cartref hynafol y Dwnns, teulu nodedig o Sir Gaerfyrddin yn y 15fed ganrif. Roedd aelod o'r teulu, Henry Don, yn gyfaill i Owain Glyndwr a chymerodd ran yn ei wrthryfel. Gellir gweld rhai olion o'r hen adeilad y tu ôl i'r ty presennol. Yn y 17eg ganrif daeth yn gartref y teulu Brigstocke.
  10. Meini Hir – Meinillwydion 
  11. CILFEITHY - Cartref y Teulu Anthony a pherchnogion Glenside, enillydd y Grand National ym 1911.
  12. Pont Rhydyronnen - Mae pont Rhydyronnen yn bont garreg tri bwa o'r 18fed ganrif dros afon y Gwendraeth Fach.
  13. Ystradferthyr - Cartref arall y Teulu Dwnn. Mae ei enw yn cyfeirio at ferthyrdod anhysbys.
  14. Ystrad Fawr - Hwn oedd cartref cangen Cadet teulu Lloyd o'r Glyn a chafodd ei adeiladu yn ystod teyrnasiad Elizabeth I.
  15. FICERDY bellach yn Ty Cloch Adeiladwyd y ficerdy "newydd' hwn yn wreiddiol ym 1888. Daeth gyda chae mawr, perllan ac adeiladau allan i weision, stabl, ty coetsys a beudy bach. Ymddeolodd y Parch B.D.M. Griffiths olaf ym 1979, ac yna gwerthwyd yr eiddo. Mae'r adeiladau allan wedi'u troi'n dai ac fe'u gelwir yn Apple Tree cottages.

 

Dogfen Treftadaeth a Hanes
Cliciwch ar y ddelwedd uchod i weld ein Dogfen Treftadaeth a Hanes.

  1. Lleolir EGLWYS SANT MAELOG (oddeutu 7fed-8fed ganrif) mewn lloc cylchog mawr (5 erw) sy'n awgrymu tystiolaeth o ddylanwad mynachaidd Gwyddelig. Mae dogfennau Normanaidd yn nodi bod Sant Maelog hefyd yn "fam eglwys" i gapeli Llangyndeyrn, Capel Cynheiddon a Chapel Dyddgen. Yn y 13eg - 15fed ganrif, ailadeiladwyd yr eglwys mewn camau gyda'r cyntedd a'r festri yn cael eu hychwanegu yn ystod teyrnasiad Harri'r VII (yn gynnar yn y 16eg ganrif). Yn ystod y Diwygiad (16eg ganrif) a'r Rhyfel Cartref (17eg ganrif) roedd yr eglwys bron yn adfail llwyr, heb unrhyw offeiriad ganddi am 100 mlynedd. Ym 1796, disgrifiodd Iolo Morgannwg Sant Maelog fel "a large but confused heap of rude buildings of addition upon addition of different ages.” Ym 1868 derbyniwyd rhoddion oedd yn golygu bod modd ailadeiladu'r eglwys yn llwyr. Mae ganddi enghreifftiau da o ffenestri lliw 19eg ganrif ac 20fed ganrif gan Burne-Jones, Morris & Co a James Powell & Son.
  2. Yr Hen Ficerdy (17eg ganrif) Mae adfail yr hen Ficerdy y tu ôl i'r eglwys. Castell Tywi oedd dewis gartref y clerigwyr yn ystod y blynyddoedd mwy diweddar. (Gweler Panel Idole). 
  3. Y Rose and Crown(C15-16) Fferm a thafarn yn wreiddiol, gerllaw rhodfa'r eglwys. Er ei fod wedi'i adnewyddu, mae'n dal yn debyg i dy hir, gyda rhannau ychwanegol o'r adeilad o'r 18fed neu 19eg ganrif yn wynebu ffordd y pentref. Meddiannwyd tir oedd yn berchen i'r Rose and Crown gan yr eglwys ym 1659. Mae rhestr y degwm o 1810 yn cofnodi'r Rose and Crown fel ‘Tafarn â Gardd’. Caeodd y dafarn ei drysau yn y pendraw ar ddiwedd y 1980au ac mae bellach yn gartref preifat.
  4. Ysgubor Hen(15fed - 16eg ganrif) Yn dyddio o'r 1500au yn wreiddiol. Yn ogystal â siediau gwartheg, roedd y ffald hefyd yn cynnwys siop gof, stablau, cytiau moch a mannau storio ar gyfer porthiant. Ym 1659 cafodd ei gofnodi fel ‘Ysgubor, adeiladau a ffald anifeiliaid degwm’ yn eiddo i'r Rose and Crown. Yn ddiweddarach, beudy oedd yr ysgubor, gyda llaethdy bach wedi'i gysylltu i'r blaen.
  5. Hen Ysgol yr Eglwys(19eg ganrif) Ysgol y pentref ar un adeg. Trwy weithred a gofrestrwyd yn Siawnsri ym 1852, rhoddodd F.J.Barker, perchennog y degwm ran o Barc Cwrt er mwyn ei sefydlu, i gynorthwyo ag addysgu'r tlawd. Agorodd yr ysgol ym 1875 gyda 77 o ddisgyblion. Oherwydd amgylchiadau cymdeithasol lleihaodd y niferoedd yn raddol tan iddi gau ym 1998, a chafodd ei throi'n gartref yn 2002.
  6. Ysgoldy (1855) Wedi'i gysylltu â'r ysgol, cafodd ei adeiladu ar gyfer y pennaeth.
  7. Pwmp y Pentref Yn wreiddiol roedd y pentrefwyr yn cael dwr o'r nant yn y fynwent. I ddathlu Jiwbili Diemwnt y Frenhines Fictoria ym 1898, cytunodd Joseph Abel Timmins a William Buchanan Lowry i ddarparu cronfa ddwr a chwndid, y golofn ddwr a'i hamgaead ar eu cost eu hunain i drigolion y pentref a'r eglwys am byth. Gyda dyfodiad prif gyflenwad dwr yn y 1950au, dechreuodd ddirywio. Fodd bynnag ym 1992, cododd blant y plwyf arian i adnewyddu'r pwmp a'i amgaead. Mae'r pwmp nawr yn defnyddio'r prif gyflenwad dwr.
  8. The Red Lion(17eg - 18fed ganrif) Mae rhestr degwm 1810 yn cyfeirio at yr eiddo fel dau dy, Ty Mawr a'r Red Lion Inn. Mae ei 29 erw o dir yn awgrymu yr oedd y dafarn yn rhan o'r fferm. Erbyn yr 1830au roedd yn cael ei adnabod fel Ystafelloedd Cyfarfod y Red Lion. Daeth y dafarn yn endid ar wahân i'r fferm ym 1968. Erbyn hyn mae'r Dafarn fodern wedi'i hadnewyddu, ac roedd ei hystafell gyfarfod unwaith yn feudy.
  9. Y Capel Methodistiaid (18fed ganrif) Sefydlwyd y capel cyntaf yma ym 1780 gan y Parchedig Peter Williams ar ôl symud o'r ty cwrdd gwreiddiol ym Mwthyn Woodbine. Cafodd y capel ei hailadeiladu ym 1844, a chaeodd fel addoldy ym 1981.
  10. Glanffrwd & HafodUnnos(1928) Adeiladwyd y pâr o fythynnod gyferbyn â’r Red Lion ym 1928 gan Mrs A. S. Lowry, a etifeddodd ddegwm y plwyf. Bwriadwyd y cyntaf yn gartref ymddeol i'r athro ysgol, gyda'r ail yn fwthyn gwyliau. Saif y bythynnod ar safle'r hen siop ddillad, groser a swyddfa delegraff/post, gafodd ei dinistrio gan dân cyn y rhyfel byd cyntaf.
  11. Ysgubor Fawr(15fed - 16eg ganrif) Yn rhoi ei henw i un o hen bentrefannau gweinyddol Plwyf Llandyfaelog. Gyda Ty Melyn gyferbyn, roedd yn rhan o fferm neu ddaliad yn wreiddiol. Cafodd Ysgubor Fawr ei hadeiladu fel ysgubor to gwellt un llawr tal, a chafodd ei phrynu gan yr eglwys ym 1695 ynghyd ag ysgubor y Rose & Crown er mwyn casglu degwm y Ficer. Wedi’i gysylltu i gefn Ysgubor Fawr oedd adeilad arall (sydd wedi'i ddymchwel bellach) o'r enw Ysgubor Fach oedd yn gweithredu fel tloty'r plwyf. Ym 1877 cafodd yr adeiladau eu hachub rhag eu gwerthu, a'u rhentu ar brydles i ddyn lleol, ac fe osododd yr adeiladau ar rent fel cartrefi. Cafodd Ysgubor Fach ei gadael fel cartref yn y 1920au. Ysgubor Fawr oedd Swyddfa Bost y pentref gyda siop, o'r 1930au tan ddechrau'r 60au.
  12. Bwthyn Woodbine Prynwyd y bwthyn hwn gan y Parchedig Peter Williams ar ôl iddo symud i'r Plwyf ym 1750. Gosododd bulpud yn y brif ardal, a dyma oedd y ty cwrdd Methodistiaid cyntaf yn yr ardal. Woodbine oedd lleoliad Swyddfa Bost olaf y pentref, rhwng y 1970au a'r 1980au.

Dylunio a darluniau gan Lisa Hellier.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Chyngor Sir Gaerfyrddin. Mae’r prosiect yn cael ei gyllido hefyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cael ei weinyddu o Ganolfan Tywi, Llandeilo.