Cymuned

Mae Llandyfaelog yn ardal wledig iawn sy'n cynnwys pentrefi Llandyfaelog a Chwmffrwd a pentrefi bach Glanmorlais, Idole, Pentrepoeth, Croesyceiliog, Bancycapel a Cloigyn. Gwahanwyd y rhain gan ardaloedd mawr o dir ameaethyddol.

Yn ôl sensws 2011 mae gan y Gymuned boblogaeth o 1304 gyda 56.80 y cant yn siarad Cymraeg.

Cynhelir Gwasanaethau Crefyddol yn y pedwar capel a dwy eglwys. Mae yna sawl busnes yn yr ardal gan gynnwys gwerthwr ceir a tafarn y Llew Goch yn Llandyfaelog.

Mae grwpiau cymdeithasol, diwylliannol a chymunedol yn nodweddion amlwg yn yr ardal. Mae’r digwyddiadau blynyddol yn cynnwys Eisteddfod Llandyfaelog yn mis Tachwedd a Sioe Amaethddol a Gardddwriaethol Llandyfaelog yn mis Medi. Cynhelir digwyddiadau eraill trwy’r flwyddyn gan Bwyllgor Neuadd Cymunedol Llandyfaelog, CFFI Llanismel, Cymdeithas y Pensiynwyr, Sefydliad y Merched a Merched y Wawr.

Mae’r cyfleustra ar gyfer teithwyr yn cynnwys sawl man gwely a brecwast a safleoedd carafanau. Mae yna hefyd sawl ffordd cerdded heriol ar gyfer y cerddwr anturus!